Y stori tu ôl i'r gân: Anfonaf Angel

Robat Arwyn a Hywel Gwynfryn
- Cyhoeddwyd
"Mae hymian hwyr y ddinas yn fy neffro, am eiliad, rwyf yn credu dy fod yno..."
Byddai nifer yn dadlau mai Anfonaf Angel yw un o ganeuon tyneraf yr iaith Gymraeg. Mae'n cydio'n y galon a'i hystyr yn gallu bod yn bersonol i unrhyw un.
Cywaith yr amryddawn Hywel Gwynfryn a Robat Arwyn sydd ar waith yma, gyda Hywel yn awdur ar y geiriau a Robat Arwyn yn gyfansoddwr yr alaw.
Ar 23 Ionawr bydd Robat Arwyn yn trafod y straeon tu ôl i'w ganeuon mewn noson arbennig yn Llyfrgell Caernarfon.
Fel rhagflas o'r noson, y cyfansoddwr sy'n datgelu ambell gyfrinach am gyfansoddi Anfonaf Angel gyda Cymru Fyw.
Cân i Gymru'n gwrthod y fersiwn wreiddiol
Gweithio hefo Hywel Gwynfryn oeddwn i, nôl yn 2002, ar sioe gerdd o'r enw Plas Du, a dyna pryd y cafodd o'r syniad i ni roi cynnig ar Cân i Gymru.
Wna i anfon 'chydig o eiria' i ti ar ebost, medda fo, a dyma finna'n cytuno, cyn i'r ddau ohona ni droi'n golygon yn ôl at y sioe dan sylw.
Rhwng popeth, nes i lwyr anghofio am y gystadleuaeth nes i Radio Cymru hysbysebu'r dyddiad cau dros y dolig, a finna'n sylweddoli mai dim ond 'chydig ddyddiau oedd gen i ar ôl.
Ches i ddim ysbrydoliaeth o gwbwl, a doedd gen i ddim syniad lle i fynd â hi, er fod yna gyffyrddiadau go arbennig yn y geiriau.
Yn y diwedd, daeth rhyw fath o alaw o rywle, un hynod o wan a deud y lleia, ond ro'n i wedi cadw at fy ngair i Hywel. I mewn â hi, a chlywyd 'run siw na miw amdani yng Nghân i Gymru 2003.
'Hon yn bendant oedd y gân i Bryn'
Erbyn 2008 ro'n i'n gweithio ar gadwyn o ganeuon ar gyfer Ysgol Dyffryn Nantlle, i'w perfformio yn Galeri y Rhagfyr hwnnw gan ddisgyblion yr ysgol yn ogystal â chyn-ddisgybl byd enwog, sef neb llai na Bryn Terfel.
Cariad a brawdgarwch oedd y thema, ac wrth chwilio am eiriau addas ddois i ar draws y rhai ebostiodd Hywel Gwynfryn ata i chwe blynedd ynghynt.
A'r tro hwn, fe gydion nhw'n syth, a 'nghyffwrdd i gymaint fel i'r alaw, yr harmoni, y rhythmau a phopeth syrthio i'w lle o fewn ugain munud, a tydi caneuon ddim yn arfer dod mor rhwydd â hynny, coeliwch fi.
Roedd y geiria' yn hollol arbennig, a hon yn bendant oedd y gân i Bryn.

Cyn camu i'r llwyfan i roi'r perfformiad cyhoeddus cynta' un o Anfonaf Angel, awgrymodd Bryn y byddai'n gwneud anthem addas iawn i Ambiwlans Awyr Cymru, a 'chydig flynyddoedd yn ddiweddarach fe'i ryddhawyd fel sengl elusennol i'r mudiad, yn Gymraeg ac yna yn Saesneg.
Chwarae teg i Bryn, mae o'n dal i ganu'r gân. Dros dolig 2020 fe ganodd Anfonfaf Angel mewn cyngerdd ar y we wedi ei drefnu gan y Metropolitan Opera o Efrog Newydd.
Ers recordiad cyntaf Bryn mae'r gân wedi ei recordio gan Rhys Meirion, Shân Cothi, nifer go lew o gorau, yn ogystal ac Aled Jones a Cherddorfa Sinffonia Seland Newydd a Sara Davies.
Ond i Ysgol Dyffryn Nantlle a Syr Bryn Terfel y mae fy nyled am yr ailgyfle i weithio â geiriau arbennig Hywel Gwynfryn.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd15 Rhagfyr 2025
- Cyhoeddwyd11 Medi 2025

